Hanes

Sefydlwyd yr eglwys gan Sant Brynach tua 550 Oed Crist. Roedd Brynach yn fynach Gwyddelig a ddaeth, fwy na thebyg, o Urdd Fynachaidd a darddodd yn ne Ffrainc neu Gâl a fabwysiadodd ei elfennau Celtaidd unigryw. Byddai llawer o’r myneich hyn yn ymadael ar gwch, yn glanio a sefydlu eglwysi ar arfordiroedd gorllewinol Ewrop. Dywedir i Brynach siarad â’r angylion ar Garn Ingli, y grib greigiog uwchlaw Nanhyfer. Ceir chwedlau eraill amdano hefyd ac mae darluniau o rai o’r rhain wedi eu cerfio’n grefftus ar ben corau Eglwys Braunton yn Nyfnaint, eglwys olaf Brynach a’r fan ble rhoddwyd ei weddillion i orffwys.

Mae’n debyg bod yr eglwys ar y safle hwn oherwydd ei bod yn sefyll o dan gaer y gallai’r myneich gilio iddi a gwrthsefyll ymosodiadau gan y Llychlynwyr fu’n plagio’r arfordir hwn yng nghanrifoedd diwethaf y mileniwm cyntaf. Yn ogystal, roedd Tyddewi’n fan pererindod pwysig iawn a safai Nanhyfer ar un o’r prif lwybrau i’r Gadeirlan. Fe wyddom fawr ddim am y pererinion hyn, ond mae’r ôl traed trawiadol sydd wedi eu rhwbio ar y grisiau llechen uwchlaw Croes y Pererinion yn tystio i’r nifer fawr o bobl a deithiodd heibio’r fan yma. Bryd hynny roedd yr eglwys yn adeilad hirsgwar bychan, carreg, gyda fawr ddim addurniadau ynddo, heblaw ambell i groes Geltaidd wedi ei cherfio, y mae rhai ohonynt wedi goroesi hyd heddiw. Byddai’r addoli’n canolbwyntio’n bennaf ar weddïo gydag ambell i Offeren.

Daeth y Normaniaid yma ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg a gyrru allan y Penaethiaid Celtaidd o’r hyn oedd bellach yn Gastell Nanhyfer. Mewnforiodd Robert Fitzmartin, Arglwydd newydd y Faenor, fyneich o Tiron yng Ngogledd Ffrainc i sefydlu Abaty newydd yn Llandudoch. Yr Abaty yma, er iddo ddioddef blynyddoedd digon cythryblus, ddarparodd offeiriaid i wasanaethu yn Eglwys Nanhyfer am dros 400 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn ailadeiladwyd yr Eglwys ar ffurf cyfarwydd Normanaidd ac mae olion trigfan y myneich yn dal i fodoli yn yr Eglwys. Roedd y tu mewn i’r Eglwys yn ogystal â’r addoli’n wahanol iawn bryd hynny, byddai golygfeydd Beiblaidd wedi eu paentio ar y muriau gan nad oedd fawr neb o’r bobl yn gallu darllen, a byddai’r addoli wedi ei seilio’n bennaf ar yr Offeren ac yn llawer mwy lliwgar. Dathlwyd dyddiau’r Saint yn ffyddlon ac roedd gorfodaeth ar y trigolion lleol i fynychu. Nid oedd Corff yr Eglwys wedi ei gysegru bryd hynny a dyma leoliad unrhyw achlysur mawr yn y Plwyf yr oedd angen ei gynnal dan do, yn gyfarfodydd, gemau a hyd yn oed yn farchnadoedd. Yr Eglwys oedd canolbwynt yr ardal, ond, gan fod pobl yn byw bron yn llwyr o fewn eu milltir sgwâr, roedd yma hefyd gapeli, croesau min ffordd a Ffynhonnau Sanctaidd ar draws y Plwyf.

Bu’r Diwygiad Protestannaidd ym 1534, troi cefn ar reolaeth Gatholig y Pab o Rufain, yn sioc aruthrol i’r bobl, a leddfwyd yn unig gan y ffaith i’r newid ddigwydd yn araf. Roedd uchelwyr y Plwyf yn gwybod beth a ddisgwylid ohonynt ond doedden nhw ddim yn barod bob amser i fod yn rhan o hyn, a byddai’r bobl gyffredin, oedd yn gweithio iddynt, yn dilyn esiampl beth bynnag y byddai’r meistri yn ei ddweud wrthynt. Bu pobl yn parhau i arddel y Ffydd Babyddol yn y Plwyf, er bod hynny’n anghyfreithlon ac yn beryglus, tra roedd y werin yn parhau i anrhydeddu eu Saint a’u cysegrfannau am bell dros gan mlynedd wedi’r Diwygiad. Mewn gwirionedd dim ond pan gyrhaeddodd tân a brwmstan y Piwritaniaid yn ystod ac ar ôl Rhyfel Cartref y 1640’au y daeth yr arferion hyn i ben yn llwyr. Roedd crefydd newydd y Piwritaniaid yn apelio i’r werin, ac arloesodd hyn y ffordd ar gyfer y capeli anghydffurfiol a ffurf llawer mwy plaen a syml o addoli yn yr Eglwys Anglicanaidd yng nghefn gwlad Cymru. Roedd Nanhyfer yn rhan pwysig o hyn gan fod David Griffiths, y ficer fu yma am 51 mlynedd o 1783, er ei fod yn gwrthwynebu ordeinio Gweinidogion Methodistaidd gan ei fod yn credu y dylent ddod o blith offeiriaid Anglicanaidd a ordeinwyd, yn agos iawn i’r achos Methodistaidd. Roedd capel Methodistaidd yn Nanhyfer a phrin iawn y gellid gwahaniaethu rhwng yr addoli yn yr Eglwys a’r Capel.

O ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg anfonid meibion y bonedd i ysgolion preifat yn Lloegr ac yna i Rydychen ac o ganlyniad cawsant eu dylanwadu gan Fudiad Rhydychen. Nid oedd meibion y teulu Bowen o Lwyngwair yn rhydd rhag hyn ac yn raddol dechreuodd y Mudiad ddylanwadu ar Nanhyfer. Ym 1864 gwnaethpwyd newidiadau sylweddol i du mewn yr Eglwys gan y Pensaer R.J.Withers o Lundain, a greodd yr hyn a welir yn yr Eglwys heddiw. Ysbrydolwyd Mudiad Rhydychen gan y dymuniad i ailsefydlu addoli fel ag yr oedd cyn y Diwygiad, seiliwyd hyn gyn gymaint ar ddychymyg byw â ffaith, ac arweiniodd at yr hyn a elwir weithiau’n Uchel Eglwys. Yn Nanhyfer arweiniodd hyn at gymysgedd ryfeddol o Anghydffurfiaeth traddodiadol Gymreig ac arferion Anglicanaidd Fictoraidd a gafodd, diolch i gyflenwad digonol o gantorion da o blith tenantiaid y teulu Bowen, effaith dymunol dros ben.

Mae’r Eglwys wedi tyfu’n ffefryn ar y llwybr twristaidd trwy orllewin Cymru; byddai’r nifer sy’n arwyddo’r llyfr ymwelwyr yn awgrymu oddeutu 15,000 o bobl y flwyddyn, yn anffodus caiff y rhain eu denu yma’n bennaf gan yr ‘Ywen Waedlyd’ yn hytrach na threftadaeth Cristnogol a phwysigrwydd y lle. Mewn ymdrech i unioni hyn ac i ddangos i bob ymwelydd bod Iesu’n fyw ac yna dal i fod yma gymaint â phan gafodd y llawr pridd cyntaf ei osod 1,500 o flynyddoedd yn ôl, mae ‘sgwâr deongliadol’ i gael ei osod yng nghefn yr Eglwys yn egluro pam mai Crist yw raison d’etre y fan yma. Bydd llawer mwy o bobl yn dod trwy ddrws yr Eglwys fel ymwelwyr na fydd fyth yn eistedd yn y corau ar fore Sul, ac i’r rheini y bydd y ‘sgwâr deongliadol’ yn apelio, ynghyd ag ‘ardal dawel’ fychan ym mlaen Corff yr Eglwys ble y gallant eistedd a myfyrio ar y pethau hyn. Nid amgueddfa mo’r Eglwys, mae’n gymuned fyw a bywiog o blwyfolion fydd yn dod ynghyd mewn brawdoliaeth a diolchgarwch gan gredu, fel y dywed Ioan 3:16 – “Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd Efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.”

blackjackpontoon.com: Jacks or Better Video Poker, Win Big in BetBright Casino. . Christopher Isham, Chief of CBS News' Washington Bureau, has an active Twitter