Robert Fitzmartin

Roedd Robert Fitzmartin yn arglwydd Normanaidd grymus, gydag ystadau yng Ngorllewin Lloegr. Tua 1108 mae’n ymddangos iddo dderbyn barwniaeth Cemais a chreu Nanhyfer yn gapwt gan sefydlu bwrdeistref o ddeunaw tir bwrdais, ynghyd â’i lys ei hun. Dywedir mai ef oedd yn gyfrifol am nodweddion y castell ar ddechrau’r 12ed ganrif, yn cynnwys y tŵr pren a safai ar ben y mwnt.

Tyfodd yn fwy pwerus, ac ym 1113 daeth â 13 o fyneich yma o Tiron yn Ffrainc i sefydlu priordy yn Llandudoch. Yn ddiweddarach dyrchafwyd hwn i statws abaty ym 1118.

Ym 1136 gorchfygodd y Cymry’r Normaniaid ym mrwydr Crug Mawr, ger Aberteifi, ac mae’n debyg i Robert Fitzmartin golli rheolaeth o Nanhyfer.

Bu farw Robert ym 1159 a dyrchafwyd ei fab William yn Arglwydd.

 

William Fitzmartin

Roedd William yn fab i Robert Fitzmartin. Pan orchfygwyd y Normaniaid ym mrwydr Crug Mawr ym 1136 mae’n debyg i Nanhyfer gael ei reoli unwaith eto gan y Cymry. Rhys ap Gruffudd (yr Arglwydd Rhys) oedd yn rheoli Nanhyfer a priododd William ei ferch, Angharad. Adenillodd y teulu Fitzmartin reolaeth o Nanhyfer trwy’r briodas hon ac o ganlyniad i Rhys ap Gruffudd, pan ddaeth yn Arglwydd Rhys, gael ei orchymyn i ddychwelyd tiroedd a gipiodd y Cymry yn ôl i’w harglwyddi cyfreithiol Normanaidd.

Ym 1159 bu farw Robert Fitzmartin a daeth William yn Arglwydd. Ni wyddir os mai William fu’n gyfrifol am y llu newidiadau a wnaed i’r castell ar ddechrau’r 12ed ganrif, fel adeiladu tŵr carreg ar ben y mwnt, yn lle’r adeilad pren a adeiladwyd gan ei dad, neu os mai Rhys fu’n gyfrifol am y rhain yn hwyrach. Ym 1191 rhoddodd yr Arglwydd Rhys Gastell Nanhyfer dan warchae cyn ei gipio eto oddi ar ei fab yng nghyfraith, William. Efallai i hyn ddigwydd tra roedd William i ffwrdd ar groesgad. Yn ddiweddarach trodd William ei gefn ar Nanhyfer (neu efallai iddo gael ei droi allan) a symudodd ychydig filltiroedd i’r de orllewin i Drefdraeth, ble y sefydlodd Hen Gastell, ger y foryd. Erbyn 1204 roedd wedi adennill rheolaeth o arglwyddiaeth Cemais.

 

Rhys ap Gruffudd – Yr Arglwydd Rhys

Caiff Rhys ap Gruffudd ei ystyried yn un o lywodraethwyr pwysicaf Cymru cyn y Goncwest. Roedd yn berson tiriogaethol ac uchelgeisiol iawn, bu ynghlwm â gweithredoedd o frad a ffyddlondeb ac mae llawer yn credu mai iddo ef y mae’r diolch am ddatblygiad strwythurol a strategol Castell Nanhyfer rhwng canol a diwedd y 12ed ganrif. Ef oedd prif arweinydd y Cymry yn neheubarth Cymru rhwng 1156 – 1194. Cafodd ei benodi’n ‘Brifynad’ yr ardal gan y Brenin Harri’r Ail ym 1172, a roddodd iddo’r teitl, yr Arglwydd Rhys. Yn gyfnewid am hyn, gorchmynwyd iddo ddychwelyd y tiroedd a gipiwyd gan y Cymry’n ôl i’w harglwyddi cyfreithiol Normanaidd. Dyma pryd y priododd Angharad, merch Rhys, William Fitzmartin.

Dywedir i Rhys adeiladu cyfres o chwe castell carreg yn ystod ei deyrnasiad – sef Aberteifi, Dinefwr, Llanymddyfri, Rhaeadr Gwy, Ystradmeurig a Nanhyfer. Ar hyn o bryd ’does dim sicrwydd mai Rhys fu’n gyfrifol am y newidiadau carreg i Nanhyfer, neu os oeddent wedi eu gwneud eisoes gan William Fitzmartin.

Yn dilyn marwolaeth Harri’r Ail, cipiodd yr Arglwydd Rhys Gastell Nanhyfer oddi ar ei fab yng nghyfraith Normanaidd. Arweiniodd hyn at elyniaeth teuluol difrifol, a welodd Rhys yn cael ei garcharu gan ei feibion ei hun. Cafodd ei rhyddhau’n ddiweddarach, ond erbyn hynny roedd wedi colli llawer o’i rym a’i diriogaeth. Bu farw ym 1197, a saif corffddelw, o’r Arglwydd Rhys yn ôl y sôn, yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Am fwy o wybodaeth am Rhys a’i fywyd ymwelwch â’r dudalen dolenni.

Baby jesus quiz.