Cloddiadau

Cyflawnwyd y cloddiadau cyntaf gan dîm bychan dros dair wythnos yn 2008. Yna cynhaliwyd cloddiadau dilynol dros 4 wythnos ym mis Mehefin / Gorffennaf 2009, 4 wythnos dros y Pasg (Mawrth / Ebrill) 2010 ac eto yn yr haf, Mehefin Gorffennaf 2010. Cyflawnwyd y gwaith cloddio gan wirfoddolwyr lleol, myfyrwyr o Brifysgolion Caerdydd, Durham a Llambed ac archeolegwyr proffesiynol o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. Gellir darllen dyddiadur o waith cloddiadau 2009 a 2010 ar:

www.cambria.org.uk/nevern/neverndigdiary.html

Ni ddaeth y cloddiadau o hyd i unrhyw olion o anheddu cynhanesyddol na chanoloesol cynnar ar y safle. Mae’r olion archeolegol a ddatgladdwyd wedi eu cyfyngu i ddau brif gyfnod:

Dechrau’r 12ed ganrif:

Castell Robert Fitzmartin. Adeiladwyd y mwnt amlwg a’r cloddiau pridd gogleddol a gorllewinol cysylltiedig a’r ffosydd cysylltiedig. Mae’n ymddangos hefyd fel bod amddiffynfa clawdd a ffos yn bresennol ar ben llethr deheuol y safle. Safai gwylfa bren ar y mwnt ar sail o 4 postyn mawr. Roedd o leiaf 3 chyfnod o balis pren yn bresennol ar ben y clawdd gogleddol. Cafwyd o leiaf 2 gyfnod o adeiladau pren y tu mewn i’r rhagfuriau gogleddol a gorllewinol. Ceir tystiolaeth bod yma ffordd gynnar, oedd yn rhedeg rhwng y ddau glawdd gogleddol, sy’n awgrymu y byddech yn mynd i mewn i’r castell ar ddechrau’r 12ed ganrif trwy gerdded o amgylch ochr ddwyreiniol y clawdd gogleddol allanol a rhwng y ddau glawdd, ac yna trwy borth rhwng y clawdd gogleddol mewnol a’r mwnt.

 

Diwedd y 12ed ganrif:

Codwyd cyfres o o leiaf 3 adeilad carreg, wedi eu hadeiladu o lechfaen lleol wedi eu gosod mewn isbridd cleiog o’r safle, ar ochr ddeheuol y safle yn edrych i lawr dros y dyffryn. Lluniwyd y ddau ddrws i mewn i’r adeiladau hyn o flociau sgwâr o dywodfaen caled wedi ei naddu’n grefftus. Tra bo’r dechneg adeiladu â llechfaen a chlai yn dechneg draddodiadol yng Nghymru, mae’r blociau carreg wedi eu sgwario’n union yn awgrymu mai dyma waith saer maen Eingl-Normanaidd. Felly mae’r cyfnod yma o adeiladu’n ymddangos fel pe bae’n gyfuniad o dechnolegau adeiladu Cymreig ac Eingl-Normanaidd. Codwyd tŵr crwn ar ben y mwnt i ddisodli’r strwythur pren cynharach. Roedd ffos fawr (o leiaf 8 metr o led ac 8 metr o ddyfnder) a dorrwyd o’r graig yn gwahanu ardal o greigwely, a elwid y Castell Mewnol, oddi wrth weddill y safle. Tyfodd y Castell Mewnol hwn i fod yn fan cryfaf ac yn ffocws y castell diweddarach; codwyd cysylltfur o’i amgylch gyda thŵr mawr sgwâr ar un ochr iddo. Codwyd y muriau a’r tŵr yma o glai a llechfaen hefyd ac, yn anarferol ddigon, roedd gan y tŵr sgwâr o leiaf un cornel allanol gron. Wyddom ni ddim ble roedd mynedfa’r castell ar ddiwedd y 12ed ganrif; yn sicr fyddech chi ddim yn mynd i mewn trwy’r fynedfa o ddechrau’r 12ed ganrif, oedd erbyn hyn yn ffos llawn llaid. Ar hyn o bryd mae’n ymddangos bod y gwaith adeiladu carreg a ddigwyddodd tua 1171-1189, fwy na thebyg yn waith William Fitzmartin, oedd efallai am greu castell trawiadol ar gyfer Angharad ei wraig newydd, yn ddiamau cafodd ei gynllunio i wneud argraff ar ei dad yng nghyfraith. Gadawodd William y safle i fynd ar groesgad gyda Rhisiart Lewgalon ym 1189 a thorodd yr Arglwydd Rhys lwon difrifol pan gipiodd Gastell Nanhyfer.

 

Ar ôl y dinistr

Dinistriwyd y castell yn dilyn tân, mae’n debyg mai Hywel Sais oedd yn gyfrifol am y dinistr ym 1195, yn sicr mae’r crochenwaith i gyd a gafwyd yn yr haenau hyn a’r haenau cynharach o’r 12ed ganrif. Mae tystiolaeth, yn cynnwys Bwrdd ‘Chwarae Nawtwll’ a gafwyd o ddrws yr adeilad carreg mwyaf (22 metr x 8 metr), y Neuadd Fawr efallai, yn awgrymu i bobl adael yr adeilad ar frys. Gallai teflynnau carreg a gafwyd y tu mewn ac o amgylch y ddau dŵr awgrymu gwrthdaro. Prin iawn yw’r dystiolaeth o ddefnyddio’r safle wedi ei ddinistrio. Wedi hynny cafodd y safle ei ffermio trwy gydol y cyfnod canoloesol ac ôl-ganoloesol (mae’n debyg i’r anheddu wneud y pridd yn gynhyrchiol iawn). Oherwydd yr amaethu cafodd llawer o’r archeoleg ei aredig o ganol y safle, gostyngwyd y clawdd gogleddol mewnol ac achosodd i’r ffos ogleddol / y ffordd lanw â llaid. Yn ogystal, torrwyd cwteri a ffosydd draenio trwy’r archeoleg i helpu i ddraenio’r safle.

 

Mae’r olion hynny o Gastell Nanhyfer sydd wedi goroesi yn cynnig tystiolaeth o’r cyfnod o newid prin hwnnw rhwng diwedd y ddeuddegfed ganrif a dechrau’r drydedd ganrif ar ddeg, pan oedd cestyll yn cael eu ailddatblygu o fod yn strwythurau pridd a phren i garreg. Dyma rai o olion cynharaf castell carreg yng Ngorllewin Cymru a thystiolaeth prin o natur bywyd yng Nghymru’r 12ed ganrif.