Hanes

Saif Castell Nanhyfer, cloddwaith ag olion muriau gwaith maen a ffosydd dyfnion wedi eu torri o’r graig, ar esgair a ffurfiwyd gan geunant yr afon Gaman, ar ochr ogleddol cwm yr Afon Nyfer. Mae’n edrych i lawr dros eglwys Nanhyfer a’i mynwent ble y saif croesau Cristnogol cynnar. Saif y castell lai na 2 filltir i’r gorllewin o Drefdraeth yng Ngogledd Sir Benfro ac roedd unwaith yn ganolbwynt cantref ac arglwyddiaeth canoloesol Cemais. Yn ystod y 12ed ganrif bu’r arglwydd Normanaidd Robert Fitzmartin, ac yna ei fab William Fitzmartin, yn rheoli barwniaeth Cemais o’r castell hwn. Bu’r castell yn rhan o ymgiprys teuluol ffyrnig yn y 1190’au rhwng yr Arglwydd Rhys, tad yng nghyfraith William Fitzmartin, oedd wedi cipio’r castell oddi arno tra’r aeth i ymladd yn y groesgad, a’i feibion. Roedd y castell cyntaf, tua 1108-1110, yn un pridd a phren; cafodd ei ailadeiladu mewn carreg ar ddiwedd y 12ed ganrif. Cafodd yr Arglwydd Rhys ei garcharu’n y castell hwn gan ei feibion ym 1194, mae’n debyg yn nhroed un o’r ddau dŵr, y dadorchuddiwyd eu gweddillion gan gloddiadau diweddar. Dymchwelwyd y castell yn fwriadol erbyn 1195 a gadawyd y safle i amaethyddiaeth. Mae’r olion archeolegol a oroesodd ar y safle hwn yn adrodd hanes yr ymryson fu rhwng y Normaniaid a’r Cymry i reoli Sir Benfro yn ystod y 12ed ganrif.

Mae cofnodion hanesyddol yn awgrymu y codwyd castell ar y safle yn yr 11ed ganrif gan yr arglwydd Cymreig lleol, Cuhelyn, cyn iddo gael ei gipio gan Robert Fitzmartin yng nghoncwest Eingl-Normanaidd Sir Benfro tua 1108/9. Crewyd Nanhyfer gan Fitzmartin fel capwt ar gyfer ei farwniaeth, sef Cemais, rydym bron yn sicr mai’r mwnt ar y safle hwn yw’r castell a sefydlwyd ganddo. Yn ddiweddarach cipiodd y Cymry Geredigion yn ôl ym 1136, yn dilyn brwydr Crug Mawr; mae’n bosibl i hyn roi rheolaeth llawer o ogledd Sir Benfro, gan gynnwys Nanhyfer, i’r Cymry, ac wedi 1156 golygodd hyn yr Arglwydd Rhys. Ym 1171, wedi dod i gytundeb â Harri’r Ail, cafodd yr Arglwydd Rhys ei ddyrchafu’n Brifynad, caniatawyd iddo gadw ei diroedd teuluol yn Neheubarth ond gorchmynwyd iddo ddychwelyd pob tir arall i’w harglwyddi Eingl-Normanaidd. Mae’n debygol iawn, yn fuan wedi 1171, i berchenogaeth y castell basio i William Fitzmartin (mab Robert) gan i William briodi Angharad, merch yr Arglwydd Rhys, rywbryd yn y 1170’au. Yn dilyn marwolaeth Harri’r Ail ym 1189, ym 1191 cipiodd yr Arglwydd Rhys Gastell Nanhyfer oddi ar ei fab yng nghyfraith. Yna aeth rheolaeth y castell o law i law rhwng yr Arglwydd Rhys a’i feibion (Hywel Sais, Gruffudd a Maelgwn), a charcharwyd yr Arglwydd Rhys yn y castell yn ystod 1194, cyn iddo farw ym 1197. Cofnodwyd i Hywel Sais ddymchwel Castell Nanhyfer ym 1195 i’w atal rhag syrthio i ddwylo Eingl-Normanaidd ac ym 1204 ail-gipiodd y lluoedd Eingl- Normanaidd ogledd Sir Benfro, gan gynnwys Nanhyfer. Mae’n debyg i gastell newydd a bwrdeistref gael eu sefydlu yn Nhrefdraeth erbyn 1204 ac ni cheir unrhyw gofnod i Gastell Nanhyfer gael ei ailadeiladu wedi hynny. Ailadeiladwyd Castell Trefdraeth mewn carreg yn ddiweddarach yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg.

Gweler hefyd ‘Gwreiddiau Canoloesol Cynnar’

Mae cofnodion hanesyddol yn awgrymu’r gyfres ganlynol o reolaeth ar Gastell Nanhyfer a Barwniaeth Cemais:

Cyn 1109 Dan reolaeth y Cymry a phennaeth lleol (Cuhelyn), efallai mai dyma safle ei lys.
1109-1135 26 mlynedd – rheolaeth Eingl-Normanaidd (Robert Fitzmartin). Datblygu’r castell a’r bwrdeistref. Mae’n debyg i gastell pridd a phren gael ei godi. Sefydlu abaty Llandudoch.
1135-1171 36 mlynedd – ansicr, mae’n debyg dan reolaeth y Cymry am y rhan fwyaf o’r cyfnod, mae’n bosibl i reolaeth Eingl-Normanaidd ddychwelyd dros dro yn y 1150’au.
1171-1191 20 mlynedd – rheolaeth Eingl-Normanaidd (William Fitzmartin). Ailadeiladwyd rhan helaeth o’r castell mewn carreg yn ystod y cyfnod hwn.