Nodau Ymchwil

Ysgrifennwyd y datganiad canlynol ar y cyfleoedd ymchwil a gynigwyd gan ymchwilio a chloddio safle Castell Nanhyfer yn 2005 cyn dechrau unrhyw waith ar y safle.

Ysgrifennwyd cyfres wedi ei diweddaru o amcanion ymchwil yn 2009 i ennill grant ar gyfer gwaith Cam 2 – ‘Nevern Castle Archaeological Excavation and Research Project’ – sydd ar gael ar: http://www.dur.ac.uk/archaeology/research/projects/?mode=project&id=405

Mae Castell Nanhyfer yn cynnig cyfle unigryw i edrych ar nifer fawr o’r pynciau ymchwil, a ddynodwyd sydd o bwys cenedlaethol yn y fframwaith ymchwil a luniwyd yn ddiweddar ar gyfer archeoleg yng Nghymru. Mae pynciau ymchwil penodol yn cynnwys:

 

Cestyll y 12ed ganrif

Mae natur cestyll Normanaidd pridd a phren, yn enwedig yng Nghymru, yn ddibynnol ar gloddio ychydig o enghreifftiau nodedig, Rhymni (Lightfoot 1992), Penmaen (Alcock 1966) ac, yn arbennig, Hen Domen (Higham a Barker 2000). Mae angen archwilio olyniaeth castell pridd a phren Normanaidd, sydd unai’n gymhleth (amddiffynfa gylch Turvey wedi ei dilyn gan fwnt a chlawdd allanol) neu sydd â chloddiau cynharach (caer bentir amlgloddiog wedi ei dilyn gan fwnt). Mae’r gydberthynas rhwng y cloddiau Normanaidd a chloddiau cynharach yn gwbl allweddol i’n dehongliad o’r safle hwn a’r amryw safleoedd mwnt a chloddiau eraill, megis Alltyferin, sy’n britho cefn gwlad Cymru.

Rhoddwyd hwb i waith ymchwil i ddatblygiad cestyll carreg Cymru trwy’r 1980’au a’r 1990’au gyda chloddio cestyll Dryslwyn a Dolforwyn (Caple 2007; Butler 1989, 1995, i ddod eto). Mae diffyg cloddiadau da o gestyll carreg o’r 12ed ganrif yn llesteirio unrhyw ddealltwriaeth o darddiad adeiladu cestyll carreg Cymreig. Mae llawer o gestyll Cymreig cynnar unai wedi cael eu clirio a’u hadfer fel henebion e.e. Castell-y-Bere, neu gwelwyd adeiladu pellach arnynt yn hwyrach e.e. Dinefwr, a thrwy hynny ein amddifadu o’r gallu i ddirnad yn gwbl eglur natur adeiladu cestyll carreg cynnar Cymru. Rydym bron yn sicr bod Nanhyfer yn adeilad carreg Cymreig o ddiwedd y 12ed ganrif. Nid yw wedi ei annibennu â gwaith adeiladu hwyrach ac nid yw wedi ei gloddio o’r blaen. Gall gynnig un o’n cyfleoedd gorau i archwilio castell carreg Cymreig cynnar.

Mae’r Arglwydd Rhys yn un o gymeriadau pennaf gorffennol Cymru. Er gwaethaf ei amlygrwydd yn hanner olaf y 12ed ganrif, ceir cyfeiriad ysgrifenedig iddo adeiladu â charreg yng Nghastell Aberteifi ym 1171 ac awgryma Turvey bod ganddo raglen adeiladu cestyll weithredol (Turvey 1997), gellir priodoli fawr ddim olion penodol iddo. Mae’r rhan fwyaf o olion cestyll fel Aberteifi a Dinefwr o waith diweddarach (Rees a Caple 2000), tra bod olion eraill yn dal heb eu cloddio e.e. Ystradmeurig neu Llanymddyfri. Mae cestyll fel Nanhyfer yn cynrychioli gwaith tebygol yr Arglwydd Rhys (King a Perks 1950-1, Turvey 1989, Miles 1989). Mae’r ffaith ei bod yn ymddangos i Nanhyfer gael ei adael ar ôl datblygu Trefdraeth tua 1195-1204, yn cynnig rhywfaint o sicrwydd (sy’n aml yn absennol mewn mannau eraill) y gellir priodoli cyfnodau carreg hwyrach yr heneb yma i’r Arglwydd Rhys neu ei feibion.

Mae deunydd tystiolaeth diwylliannol ar gyfer y 12ed ganrif, yn enwedig wrthrychau sy’n ymwneud â’r diwylliant Cymreig, yn brin iawn. Golygodd clirio cestyll ar ddechrau’r ganrif nad oes fawr ddim olion diriaethol wedi goroesi o unai’r arglwyddi na’r tywysogion Cymreig, nac o filwyr a gwerin bobl y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae’r olion a gafwyd ar safleoedd fel Dryslwyn (Caple 2007) neu Gastell-y-Bere (Butler 1974) yn bennaf yn ychydig ganfyddiadau metal, carreg ac asgwrn. Mae angen canfod arteffactau organig, fel powlenni, bwcedi, esgidiau ayb, i gynnig darlun mwy cyflawn o fywydau’r bobl hyn. O’r herwydd mae unrhyw, a phob, gwaddodion dwrlawn posibl ar safleoedd o’r ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg o’r pwys mwyaf. Mae angen eu hasesu a chreu strategaethau diogelu er mwyn gwarchod yr olion yn y fan a’r lle neu i gloddio’r gwaddodion a gwarchod eu cynnwys. Mae’n amlwg bod gwaddodion dwrlawn i’w cael yn ffosydd gogleddol allanol a gorllewinol Castell Nanhyfer. Trwy gloddio, bydd angen asesu potensial archeolegol y gwaddodion hyn ac os oes cyfoeth o ddeunydd archeolegol bydd angen llunio strategaeth gadwraeth.

Aneddiadau Caerog Canoloesol Cynnar 6ed – 11ed ganrif

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf canfyddwyd nifer o safleoedd caerog ‘statws uchel’ yn cynnwys crochenwaith wedi ei fewnforio o ardal Môr y Canoldir â dyddiadau o’r 5ed-8ed ganrif, er enghraifft yn Hen Gastell, Caeriw a Longbury Banks yng Ngorllewin Cymru. O ganlyniad i erydiad neu waith adeiladu hwyrach, ‘does fawr ddim o’r adeiladau sy’n bresennol ar y safleoedd hyn wedi cael eu hadfer. Yr enghraifft mwyaf cyflawn o safle o’r fath yw Dinas Powys (Alcock 1963), a gloddiwyd dros 40 mlynedd yn ôl. Mae statws hwyrach, ffurf a lleoliad safle Castell Nanhyfer yn golygu ei fod yn ymgeisydd tebygol iawn i fod yn safle ‘statws uchel’ o’r cyfnod canoloesol cynnar.

Awgrymwyd y gallai caerau pentir amlgloddiog fod yn ffurf ar safle sy’n gyffredin yn y cyfnod ôl-Rufeinig / Cristnogol cynnar e.e. Caeriw ac o bosibl Dinas Powys. Mae Castell Nanhyfer yn cynrychioli cyfle gwych i brofi’r ddamcaniaeth hon.

Awgrymwyd efallai bod safleoedd seciwlar ac eglwysig yn cael eu paru o’r 6ed – 11ed ganrif. Felly gallai presenoldeb clas wedi ei leoli ar safle eglwys / mynwent bresennol Nanhyfer yn ystod y 6ed – 11ed ganrif awgrymu presenoldeb safle seciwlar gerllaw, o bosibl wedi ei leoli yr ochr draw i nant neu afon o’r safle eglwysig. Gellid profi’r ddamcaniaeth yma trwy gloddio yng Nghastell Nanhyfer.

Mae’r diffyg safleoedd archeolegol o gyfnod yr 8ed-12ed ganrif yng Nghymru’n ein rhwystro rhag ffurfio unrhyw ddarlun archeolegol cydlynol pendant ar gyfer y cyfnod hwn. Mae’n bosibl iawn nad yw safleoedd fel Llan-gors a Llanbedrgoch yn rhai nodweddiadol. O ystyried ei gysylltiad â’r safle eglwysig, sy’n weithredol trwy ddechrau’r cyfnod Canoloesol (Pryce 1992), mae’n ymddangos fel y gallai Castell Nanhyfer fod yn un o’r safleoedd mwyaf tebygol ble y gallem ganfod olion byw ac anheddu o’r 8ed-11ed ganrif. O’r herwydd, byddai ei gloddio’n gwneud cyfraniad allweddol i lanw un o’r blychau mwyaf amlwg yng nghofnodion archeolegol Cymru.

Llyfryddiaeth

Alcock, L. 1963 Dinas Powys, Cardiff. Gwasg Prifysgol Cymru.

Alcock, L. 1966 Castle Tower, Penmaen: a Norman ringwork in Glamorgan. Antiquaries Journal 46, 176-210

Butler, L.A.S. 1974 Medieval Finds from Castell-y-Bere. Archaeologia Cambrensis CXXIII, 78-111

Butler, L.A.S. 1989 Dolforwyn Castle Montgomery, Powys. First Report: The Excavation 1981-1986. Archaeologia Cambrensis CXXXVIII, 78-98

Butler, L.A.S. 1995 Dolforwyn Castle Montgomery, Powys. Second Report: The Excavation 1987-1994. Archaeologia Cambrensis CXLIV, 133-203

Butler L.A.S. i ddod Dolforwyn Castle Montgomery, Powys. Third Report: The Finds. Archaeologia Cambrensis

Caple, C. 2007 Excavations at Dryslwyn Castle 1980-1995. Society for Medieval Archaeology Monograff Rhif 26, Society for Medieval Archaeology, Llundain

King, J D C a Perks, J C. 1950-1 Castell Nanhyfer, Nevern (Pemb.). Archaeologia Cambrensis 101, 123-128

Lightfoot, K. 1992 Rumney Castle, a ringwork and manorial centre in South Glamorgan. Medieval Archaeology 36

Miles, D. 1998 A Book on Nevern. Gwag Gomer, Llandysul

Pryce, H. 1992 Ecclesiastical Wealth in Early Medieval Wales yn N. Edwards, N. a A. Lane Early Medieval Settlements in Wales AD 400-1100 Bangor / Caerdydd

Rees S. a Caple C. 1999 Dinefwr Castle Dryslwyn Castle. Caerdydd. Cadw

Turvey, R. 1997 The Castle Strategy of the Lord Rhys, Archaeologia Cambrensis CXLIV, 103-132

Turvey, R. 1989 Nevern Castle: A New Interpretation, The Journal of the Pembrokeshire Historical Society 3, 57-66

https://nationbuilder.com/jimwalshdc