Sut i ddod yma
Saif Castell Nanhyfer ym mhentref Nanhyfer, Gogledd Sir Benfro, ar ffordd wledig oddi ar yr A487 rhwng Trefdraeth ac Aberteifi.
Y ffordd orau i gyrraedd y castell yw trwy gerdded – unai ar hyd y llwybr gyda wal y fynwent, neu trwy groesi’r bont garreg fawr a throi i’r chwith gyferbyn â’r cartws. Mae lle parcio’n brin wrth fynedfa’r castell.
Mewn car:
Teithiwch ar hyd yr A487 rhwng Trefdraeth ac Aberteifi a throi i lawr y ffordd wledig â’r arwydd Nanhyfer. Ceir ychydig o le parcio ger yr eglwys, ar ochr y ffordd ychydig ymhellach na’r eglwys, neu faes parcio mawr ger y dafarn, y mae croeso i gwsmeriaid ei ddefnyddio.
Ar fws:
Mae bws rhif 412 yn rhedeg rhwng Aberteifi a Nanhyfer ac yn stopio ar gyffordd yr A487 a’r ffordd wledig i lawr i Nanhyfer. O’r fan yma mae tua milltir i mewn i’r pentref.
Seiclo:
Mae llawer o lonydd gwledig tawel o amgylch Nanhyfer, ond mae’r tir yn weddol fryniog.
Cerdded:
Ceir digon o lwybrau cyhoeddus yn yr ardal, yn ogystal â lonydd gwledig tawel. Edrychwch ar fap yr OS am fanylion.